Mae’r Aelod Cynulliad Plaid Cymru Arfon Siân Gwenllian wedi croesawu treialu technoleg dementia gyfeillgar yng Nghanolfan Arddio Fron Goch yng Ngwynedd.

Bwriad y dechnoleg yma yw hyrwyddo byw’n annibynnol ymhlith pobol sydd yn dioddef o ddementia neu’n dibynnu ar ofalwyr.

Mae’r system yn caniatáu i bobl sy’n byw gyda dementia neu sydd ag anableddau dysgu i gerdded o amgylch y ganolfan arddio ar eu pennau eu hunain, gan ddarparu tawelwch meddwl i’w gofalwyr eu bod yn ddiogel bob amser.

Pe bai’r arbrawf yn llwyddiannus, mae Siân Gwenllian yn gobeithio y bydd y system yn cael ei rhannu ledled Arfon.

‘Haeddu canmoliaeth’

“Roeddwn yn falch o weld sut mae’r system newydd ac arloesol hon yn gweithio, gan roi’r rhyddid a gollir mor aml o ganlyniad i’r salwch, yn ôl i gleifion dementia a’u gofalwyr,” meddai ar ôl ymweld â’r ganolfan arddio yr wythnos hon.

“Mae’r ymdeimlad hwnnw o golli annibyniaeth rhywun a gorfod dibynnu ar eraill yn aml yn cael ei enwi fel un o agweddau mwyaf gwanychol y salwch.

“Dyna pam bydd systemau technoleg newydd fel hyn yn helpu dioddefwyr a’u gofalwyr i adennill hyder o ddydd i ddydd.

“Hoffwn ddiolch i Arloesi Gwynedd Wledig am eu gwaith ar y prosiect hwn ac i Ganolfan Arddio Fron Goch a’u staff am gytuno i fod yn rhan o’r treial. Mae’r ddau yn haeddu canmoliaeth am wneud y cysyniad arloesol hwn yn realiti.

“Os bydd y treial yn llwyddiannus, rwy’n gobeithio y bydd y system hon yn cael ei chyflwyno ledled Arfon, gan alluogi pobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr i fynd o gwmpas eu bywydau beunyddiol gyda sicrwydd ychwanegol.”