Mae Cabinet Cyngor Ceredigion wedi cymeradwyo argymhellion i greu ysgol i blant o 3 i 19 oed drwy gyfuno ysgolion cynradd ac uwchradd yn Llanbedr Pont Steffan.

Fe fu’r Cabinet yn trafod yr argymhellion i uno Ysgol Uwchradd Llanbed ac Ysgol Gynradd Ffynnonbedr mewn cyfarfod yn Aberaeron heddiw, yn dilyn mis o ymgynghoriad rhwng yr Awdurdod Lleol a chymunedau lleol.

Mae’r ddwy ysgol eisoes wedi bod yn cyd-weithio’n ganolfan addysg 3-19 oed, fel rhan o gynllun peilot yn ystod y flwyddyn addysgol 2010/11, gydag un pennaeth yn gyfrifol am y ddwy ysgol.

Cynllun peilot

Penderfynodd llywodraethwyr y ddwy ysgol i gynnal cynllun peilot i uno’r ddwy ysgol gymdogol cyn penderfynu ar y mater – ac wedi blwyddyn o arolwg, fe bleidleisiodd llywodraethwyr y ddwy ysgol yn unfrydol o blaid yr uno ym mis Mehefin eleni.

Mae cwmni ymgynghori Optima Learning wedi bod yn asesu’r cynllun yn ystod y flwyddyn, gan holi plant, staff a llywodraethwyr y ddwy ysgol, yn ogystal â phobol eraill fyddai â diddordeb.

Heddiw fe fu Cabinet Cyngor  Ceredigion yn trafod argymhellion yr adroddiad hwnnw, ac maen nhw wedi penderfynu cymeradwyo’r cynlluniau cynnar ar gyfer ysgol 3-19 oed i gael ei sefydlu ar gampws y ddwy ysgol.

Mewn datganiad, dywedodd y Cyngor fod y “Cabinet wedi cymeradwyo’r cam nesaf wrth sefydlu ysgol 3-19 oed yn Llanbedr Pont Steffan.”

Mae gan y cyhoedd hyd at Ragfyr 2011 i gyflwyno gwrthwynebiad i’r cynllun nawr. Os bydd hynny’n digwydd, fe fydd y mater yn cael ei drosglwyddo ar gyfer ystyriaeth gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r datblygiad yn rhan o gynllun ad-drefniant addysg ehangach yng Ngheredigion, gyda’r Cyngor eisoes yn edrych ar newidiadau tebyg yn Nhregaron ac yn Llandysul.