Mae ymgais answyddogol i ddenu teuluoedd yn ardal Llanaelhaearn yn eu hôl i’r ysgol fach leol wedi bod yn ofer, yn ôl y Cynghorydd Aled Wyn Jones.

Dywed Cyngor Gwynedd y byddai cau’r ysgol yn arbed £75,000 a’r bwriad yw anfon yr wyth neu naw disgybl sydd ar ôl yn Llanaelhaearn i ysgol gyfagos, Bro Plenydd yn y Ffôr.

Bydd Cyngor Gwynedd yn cyfarfod wythnos i heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 18) i drafod y sefyllfa yn dilyn cyfnod o ymgynghori a ddaeth i ben ar Ionawr 31.

“Yn anffodus ni chafwyd ymateb, hynny ydi, ddaeth yna ddim mwy o blant i’r ysgol,” meddai Aled Wyn Jones wrth golwg360.

“Flynyddoedd yn ôl, cyn i mi ddod yn gynghorydd yma, rydw i ar ddeall fod yr Adran Addysg wedi dod yma a dweud fod angen codi’r niferoedd.

“Fe gododd hynny ddychryn ar dipyn o rieni y plant oedd yma eisoes.

“Roedden nhw’n rhagweld fod yr ysgol mewn peryg o gael ei chau, felly fe aethon nhw â’u plant, rhai yn llywodraethwyr yn Llanaelhaearn, i ysgolion eraill gan eu bod nhw’n rhagweld beth oedd yn mynd i ddigwydd. Ac wrth gwrs, mae hynny fel caseg eira wedyn.”

A oes manteision?

Er fod y rhieni wedi ei siomi gyda bwriad Cyngor Gwynedd, ac mae Aled Wyn Jones yn gweld hynny’n gwbl ddealladwy, mae hefyd yn pwyso a mesur y manteision.

“Tasa rhywun yn edrych arno gyda gwaed oer, does gen i ddim plant yno, mae ’na nifer o bethau y gallai fod yn fanteisiol i’r plant.

“Pan mae gennoch chi ond wyth neu naw plentyn mewn ysgol, dydyn nhw ddim yn gallu cymryd rhan mewn mabolgampau neu bethau felly, ond wedi dweud hynny mae o’n golled i’r gymdeithas.

“Mae’r ysgol wedi bod drwy hyn o’r blaen, flynyddoedd mawr yn ôl, ac fe lwyddwyd bryd hynny i gadw’r ysgol ar agor. Dydw i ddim yn cefnogi cau’r ysgol, ond erbyn hyn, gyda’r niferoedd fel y maen nhw, mae rhywun yn gallu gweld y rhesymau pam y byddai’n gallu bod yn fanteisiol i’r plant.”

Cynhaliwyd cyfnod ymgynghori ar y cynnig i gau Ysgol Llanaelhaearn  ar 31 Awst 2020, a darparu lle i ddysgwyr yn Ysgol Bro Plenydd, Y Ffôr o’r 1 Medi 2020. Bydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn ystyried argymhellion yr adroddiad ar 18 Chwefror 2020.