Mae problemau teithio’n parhau yng Nghymru heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 11) wrth i bobol geisio dygymod â dinistr Storm Ciara.

Mae disgwyl i deithwyr ddefnyddio Pont Tywysog Cymru ar yr M4 yn hytrach na Phont Hafren yr M48, sydd yn dal wedi’i chau.

Mae cyfyngiadau cyflymder o 30 milltir yr awr ar yr A55 ger Pont Britannia yn sgil gwyntoedd cryfion.

Mae cyfyngiadau yno hefyd ar deithio gyda charafanau, beiciau modur a beiciau.

O ran y trenau, mae gwasanaeth Dyffryn Conwy wedi’i ganslo, gyda gwasanaeth bws rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog yn ei le, a bydd gwasanaeth bws o’r Amwythig i Aberystwyth, ac o Fachynlleth i Bwllheli.

Yn ôl Parc Cenedlaethol Eryri, mae coed wedi’u dadwreiddio ar hyd Llwybr Mawddach, sydd wedi’i gau i’r cyhoedd am “ddiwrnod neu ddau” rhwng Pont y Wernddu a Llynpenmaen.

Ysgol y Creuddyn

Mae Ysgol y Creuddyn yng Nghonwy yn dal wedi’i chau oherwydd difrod mawr i’r safle.

“Mae Swyddogion ALl a Chontractwyr wedi ymweld â’r ysgol heddiw er mwyn gwneud asesiad o gyflwr y to yn dilyn Storm Ciara,” meddai’r ysgol mewn datganiad.

“Maent wedi gallu atgyweirio rhannau o’r to er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel. Yn anffodus, mae’r gwyntoedd cryf yn golygu nad oedd bosib iddynt asesu mannau penodol o’r to.

“Mae hyn yn golygu bod y risg sylweddol y gall fwy o lechi ddisgyn.”