Mae’r gwaith clirio wedi dechrau yn Llanrwst dilyn y “difrod difrifol” a wnaed i gartrefi a busnesau yn y dref yn sgil Storm Ciara dros y penwythnos.

Roedd Llanrwst yn un o’r llefydd a gafodd eu heffeithio fwyaf gan Storm Ciara yn Sir Conwy.

Er yr holl ddinistr yn Llanrwst, dywed Maer y dref Huw Prys Jones fod trigolion wedi dod ynghyd a “mae pawb yn helpu ei gilydd.”

“Mae pawb wedi bod yn brysur yn glanhau’r difrod, mae yna rai llefydd wedi gweddnewid, ond mae gan rai o’r siopau ddifrod difrifol ac mi fydd yn cymryd misoedd i’w hadnewyddu.

“Mae yna un siop drin gwallt sydd wedi difetha yn llwyr.”

System rhybuddion tywydd

Mae amheuon wedi codi ymysg y bobol leol na chafodd gwaith cynnal a chadw trylwyr ei wneud ar amddiffynfeydd llifogydd y dref, yn ôl Huw Prys Jones.

Dywedodd bod trigolion Llanrwst yn chwilio am atebion.

“Mae rhywbeth mawr wedi mynd o’i le,” meddai Huw Prys Jones.

“Mae’n rhaid bod y dŵr wedi cronni yn rhywle oherwydd dyw’r rhan yna o’r dref heb arfer ei cha’l hi.

“Ac mae yno amheuon bod y gwaith cynnal a chadw heb gael ei wneud.

“Dy’n ni ddim yn son am waith sy’n costio miliynau o bunnoedd, ’da ni’n son am waith sylfaenol.”

Mae  Huw Prys Jones yn credu bod angen edrych ar y system bresennol o rybuddio am dywydd garw.

“Dw i’n meddwl y gallwn ni edrych ar y system rybuddio, achos doedd pobl ddim yn barod. Efallai bod angen ei hadnewyddu.”