Bydd cyfraith newydd gan Lywodraeth Cymru yn rhoi diogelwch o 12 mis i bobol yng Nghymru sy’n rhentu eu cartref rhag cael eu troi allan ar ddechrau tenantiaeth newydd cyn belled nad ydynt yn torri telerau eu cytundeb.

Mae disgwyl i’r mesur Rhentu Cartrefi (Diwygio) gael ei gyflwyno i’r Senedd heddiw (Chwefror 10) gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James.

Bydd y mesur yn ymestyn y cyfnod ar ddechrau tenantiaeth newydd pan nad yw landlord yn gallu rhoi hysbysiad rhybudd o chwe mis.

Ar ben hyn, mae’r mesur yn golygu ymestyn y cyfnod hysbysu byrraf gall landlord ei ganiatáu cyn dod â chytundeb i ben, cyn belled bod y telerau ddim yn cael eu torri, o ddau fis i chwe mis.

“Mesurau pellach”

Dywed Llywodraeth Cymru mai bwriad y newid i’r gyfraith yw darparu mwy o sicrwydd i bobol sy’n rhentu eu cartref, yn enwedig pobl sy’n byw a rhentu yn y sector preifat.

Dywed y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James: “Bydd y mesur newydd dw i’n ei gyflwyno heddiw yn ychwanegu mesurau sylweddol pellach i warchod y rheini sy’n rhentu eu cartref yng Nghymru at y mesurau sydd eisoes wedi’u cynnwys yn ein deddfwriaeth Rhentu Cartrefi arloesol.”