Mae Maer Llanrwst yn galw am “ymchwiliad trylwyr ar unwaith” i lifogydd a “difrod difrifol” i fusnesau’r dref yn sgil tywydd garw sydd wedi’i achosi gan Storm Ciara.

Ymhlith y llefydd sydd wedi’u heffeithio fwya’ yn Sir Conwy mae tref Llanrwst, Hen Golwyn a Llanfair Talhaearn.

Mae canolfannau brys wedi’u sefydlu ar ôl i bobol orfod gadael eu cartrefi.

Ac fe fydd Ysgol Dyffryn Conwy ynghau i ddisgyblion yfory (dydd Llun, Chwefror 10).

Daw’r llifogydd diweddaraf lai na blwyddyn ers i afon Conwy orlifo yn y dref.

‘Ddylai hyn ddim bod wedi digwydd’

“Mae llifogydd y bore yma wedi achosi difrod difrifol i fusnesau yng nghanol y dref, a llawer o’r busnesau hyn heb gael eu taro gan lifogydd ers degawdau,” meddai Huw Prys Jones.

“Ddylai hyn ddim bod wedi digwydd oherwydd doedd afon Conwy ddim wedi codi lawn mor uchel ag y gwnaeth ym mis Mawrth y llynedd.

“Mae’n ymddangos bod dŵr wedi cronni rywsut yn un o’r afonydd bach, a hynny ynghyd ag oriau o law trwm a llanw uchel wedi arwain at ddinistr.

“Mae’n rhaid cael ymchwiliad trylwyr ar unwaith i achos y fath lanast, ac os mai esgeulustod rhywun sy’n gyfrifol mae’n gwbl anfaddeuol.”

Cerrig yr Orsedd yn Llanrwst
Cerrig yr Orsedd yn Llanrwst (Llun: Huw Prys Jones)

‘Cymryd cyfrifoldeb’

Mae’n galw ar yr awdurdodau i “gymryd cyfrifoldeb” am y sefyllfa, ac yn cyhuddo nifer o awdurdodau o “golchi eu dwylo”.

“Mae pryderon nad oes gwaith cynnal a chadw rheolaidd yn cael eu gwneud o afonydd bach sy’n llifo i afon Conwy, ac mae’n hen bryd sicrhau bod rhywun yn cymryd cyfrifodeb,” meddai wedyn.

“Yn rhy aml, mae gwahanol awdurdodau fel y Cyngor Sir neu Cyfoeth Naturiol Cymru yn gallu golchi eu dwylo yn rhy hawdd trwy honni mai cyfrifoldeb awdurdod arall ydi gwahanol rannau o dir neu afonydd.

“Dydi hyn ddim digon da – rhaid i wasanaethau argyfwng gael y grym i orfodi awdurdodau i drafod efo’i gilydd er mwyn sicrhau bod gwaith cynnal a chadw sylfaenol yn cael ei wneud.”

Ceir mewn maes parcio yn Llanrwst
Ceir mewn maes parcio yn Llanrwst (Llun: Huw Prys Jones)