Kirsty Williams
Mae Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, wedi mynegu ei phryder am ystadegau sydd wedi eu cyhoeddi heddiw sy’n datgelu bod nifer y gwelyau mewn ysbytai, yn parhau i ostwng.
Yn ystod y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2010 a 31 Mawrth 2011 roedd 6% o welyau y GIGwedi eu colli yng Nghymru – gostyngiad o 719 i 12,149 – y gostyngiad mwyaf ers deng mlynedd.
Dywedodd Kirsty Williams, llefarydd iechyd y Democratiaid Rhyddfrydol: “Mae’n peri pryder bod gwasanaethau’r GIG yng Nghymru yn cael eu gwasgu’n gynyddol drwy ddiffyg adnoddau sylfaenol fel gwelyau… Rydw i’n siomedig iawn bod y duedd yma yn gwaethygu ac nad yw’r broblem yma wedi cael ei ddatrys yn llwyddiannus am fwy na deng mlynedd.”