Mae nifer o gymunedau sir Conwy’n diodde’n wael o ganlyniad i dywydd garw sydd wedi’i achosi gan Storm Ciara.

Ymhlith y llefydd sydd wedi’u heffeithio fwya’ mae tref Llanrwst, Hen Golwyn a Llanfair Talhaearn.

Mae canolfannau brys wedi’u sefydlu ar ôl i bobol orfod gadael eu cartrefi.

Ac mae neges ar dudalen Twitter Ysgol Dyffryn Conwy yn dweud y bydd yr ysgol wedi’i chau i ddisgyblion yfory (dydd Llun, Chwefror 10).