Ar ddiwrnod y gêm rygbi rhwng Iwerddon a Chymru yn Nulyn, mae Adam Price yn dweud bod “C’mon Cymru” yn fwy na dim ond slogan ar gyfer diwrnod gemau rygbi.

Ar wefan Plaid Cymru, dywed yr arweinydd fod “craic” a “hwyl” yn perthyn yn agos i’w gilydd a’i bod yn “amhosib ymweld ag Iwerddon heb deimlo wedi’ch ysbrydoli”.

Mae’n dweud bod yr ysbrydoliaeth honno’n “economaidd gymaint ag y mae’n ddiwylliannol”.

Ond nid felly y bu erioed, meddai.

“Pan aeth fy nhad i gemau rygbi rhyngwladol yn Nulyn gyntaf yn y 1950au, roedd yr amodau cyfyng a rhannau o’r ddinas wedi’u heintio a oedd ymhlith y slymiau gwaethaf yn unman yn Ewrop ar y pryd yn gwneud i’r rhai oedd wedi’u gweld nhw’n simsan.

“Mae hi bron yn amhosib i’w ddychmygu nawr ond cyn i’r Teigr Celtaidd ruo, Cymru bryd hynny oedd y mwyaf llewyrchus o’r cefndryd Celtaidd.

“Yn 1961, roedd GDP y pen yn Iwerddon tua hanner yr hyn oedd e yng Nghymru.

“Symudwch ymlaen i heddiw ac mae’r sefyllfa wedi mwy na gwyrdroi: mae cynhyrchiant Iwerddon fwy na dwy a hanner o weithiau’n uwch na’n cynhyrchiant ni.

“Rydyn ni’n sefyll yn eitha’ da ym myd rygbi ond yn economaidd, dydyn ni ddim bellach yn yr un cae.”

Mae’n dweud bod economi Iwerddon yn perfformio pum neu chwe gwaith yn well nag economi Cymru.

Yr Undeb yn y fantol

Dywed Adam Price wedyn fod yr Undeb rhwng gwledydd y Deyrnas Unedig “yn fater difrifol o amheus”, a bod trigolion Gogledd Iwerddon a’r Alban “yn ymylu ar statws lleiafrifol”.

Yng Nghymru, mae’r gefnogaeth i annibyniaeth wedi cyrraedd oddeutu 30% ac mae’n dweud bod Llafur Cymru’n “pledio am fuddsoddiad newydd gan San Steffan i wrthyrru’r cynnydd mewn cenedlaetholdeb”.

Wrth ganolbwyntio wedyn ar Iwerddon, mae’n dweud bod 80% o allbwn diwydiannol y ddwy ran o Iwerddon – y de a’r gogledd – yn dod o chwe sir y Gogledd ar yr adeg pan fyddai’r ddwy wlad yn gwahanu.

Ond mae’r sefyllfa wedi’i gweddnewid erbyn hyn, meddai, gyda diwydiant yn ffynnu yn y de ar draul ardaloedd yng Ngogledd Iwerddon.

“O ddod yn annibynnol, mae’r Weriniaeth wedi dod yn fwy hunanhyderus ac allblyg, sy’n mynd yn groes i’r cyhuddiad o fod yn ynysig sy’n aml yn cael ei daflu at ‘ymwahanwyr’.

“Wrth gwrs, dyw annibyniaeth ddim yn gwarantu llwyddiant yn awtomatig.

“Mae’n rhaid i chi ddefnyddio ei theclynau mewn modd deallus.”

Dysgu gwersi

Ond er mwyn i Gymru annibynnol lwyddo, rhybuddia Adam Price fod yn rhaid dysgu’r gwersi o lwyddiant Iwerddon.

“Gall llwyddiant Iwerddon fod yn sbardun i’n llwyddiant ninnau os dysgwn ni’r wers ganolog.”

“Yng ngeiriau David Buttress, yr unig Gymro hyd yn hyn i sefydlu cwmni gwerth sawl biliwn o ddoleri, Just Eat, “Os darllenwch chi hanes y gwledydd oedd unwaith yn rhan o undeb o wledydd, does yna’r un sy’n dod yn annibynnol sydd wedyn yn dweud: ‘Hoffwn i ddod yn rhan o’r hen Undeb honno ro’n i’n rhan ohoni’.

“Ennill neu golli ddydd Sadwrn, dylai bod yn gystadleuol ar dir Iwerddon blannu hedyn yn ein meddyliau: os gall hynny fod yn wir yn y byd chwaraeon, pam lai’r economi.

“Nid slogan ar gyfer dydd Sadwrn yn unig mo ‘C’mon Cymru’: arwyddair yw e ar gyfer degawd newydd a all fod wedi dechrau gydag un math o ymadawiad ond a all weld dechreuad newydd.

“Fel yr oedd yr hyfforddwr gorau na chafodd Cymru erioed yn hoff o’i ddweud, “os ydyn ni ei eisiau, fe fydd yn digwydd.

“All dim byd sefyll yn ffordd hunan-gred cenedl.”