Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw ar Lywodraeth Prydain i sicrhau bod digon o gyllid ar gael i sicrhau bod gan bobol sy’n byw yng nghefn gwlad fynediad i arian parod a gwasanaethau tynnu arian rhad ac am ddim yn eu cymunedau.

Mae Jamie Stone, un o Ddemocratiaid Rhyddfrydol yr Alban wedi ysgrifennu llythyr at y Canghellor Sajid Javid gyda chefnogaeth gan Blaid Cymru, y Ceidwadwyr, Llafur a’r SNP.

Rhwng Ionawr 2018 a Rhagfyr 2019, cafodd 1,203 o fanciau lleol eu cau, yn ogystal â 8,700 o beiriannau twll yn y wal sy’n rhoi arian yn rhad ac am ddim, yn ôl ffigurau Which?.

Mae nifer y peiriannau twll yn y wal sy’n codi ffi am eu defnyddio wedi codi 37%, sy’n golygu bod cwsmeriaid wedi talu ychydig dros £29m mewn ffioedd bancio.

O ganlyniad i’r ymgyrch, mae Barclays eisoes wedi gwneud tro pedol ar gynlluniau i atal cwsmeriaid rhag tynnu arian yn swyddfa’r post.

‘Bygwth cymunedau’

“Mae mynediad i arian parod yn rhywbeth sy’n bygwth craidd ein cymunedau gwledig yma yng Nghymru,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

“Mae cau banciau wedi gadael ein trefi mewn sefyllfa fregus, gyda nifer o bobol yn gorfod teithio allan o’r dref i gael mynediad i’w harian eu hunain.

“Yn y Gelli Gandryll lle dw i’n byw, allwch chi ddim ond tynnu arian trwy swyddfa’r post neu beiriant twll yn y wal sy’n codi 99c ar gyfer trafodion.

“Mae hyn yn niweidio busnesau lleol ac yn cosbi trigolion hŷn a’r rheiny â phroblemau symudedd na allan nhw deithio allan o’r dref yn hawdd er mwyn dod o hyd i beiriant twll yn y wal rhad ac am ddim.

“Mae’r Ceidwadwyr yn groch ynghylch y ffaith eu bod nhw eisiau cefnogi’r economi wledig yma yng Nghymru.

“Dyma’u cyfle i ddangos ei fod yn fwy na dim ond rhethreg.

“Os ydyn nhw wir yn awyddus i gefnogi ein cymunedau, byddan nhw’n gwneud y peth iawn ac yn sicrhau bod yr arian hwn ar gael.”