Mae dylunydd o Gaernarfon wedi codi’r syniad o greu gardd fotaneg a chyfleuster tyfu bwyd cynaliadwy yng nghanol y dref, ar safle lôn fydd yn gweld llawer llai o draffig wedi i ffordd osgoi gael ei hadeiladu.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn 2016 y byddai ffordd osgoi chwe milltir yn cael ei hadeiladu o gylchfan ger Tafarn Y Goat, Llanwnda ac yn ymuno â’r A487 bresennol wrth gylchfan Plas Menai.

Bydd y ffordd newydd yn dargyfeirio traffig heibio tref Caernarfon a phentref Bontnewydd.

Mae’r gwaith o adeiladu’r ffordd osgoi bellach wedi dechrau ac un person sydd eisoes yn edrych tuag at ddyfodol y dref a dyfodol y blaned ydy Dyfan Rhys.

“Un o’r pethau dwi’n wneud efo fy ngwaith ydy edrych ymlaen at y dyfodol, deg, ugain mlynedd i ffwrdd,” eglura’r dylunydd.

“Ac efo’r holl bethau amgylcheddol sy’n digwydd dw i’n meddwl beth sydd o’n blaenau ni.

“Mi fydd yna newid ar ryw bwynt efo’r drefn ffyrdd yng Nghaernarfon, ac roeddwn i’n meddwl be allai gael ei wneud yno.

“A dyma fi’n meddwl am dŷ gwydr i dyfu bwyd a llysiau aballu.”

Rhannodd Dyfan Rhys ddarlun bras o’i gynllun ar wefan Trydar gan ennyn cryn ymateb gan eraill oedd yn awyddus i weld datblygiad o’r fath yn y dref.

Gwyrddio Caernarfon

Ond mae Dyfan Rhys hefyd yn awyddus i wyrddio tipyn ar ganol Caernarfon, yn enwedig y lôn fly over llwyd sy’n rhedeg drwy’r dref.

Ei syniad yw cau’r lôn i geir ac adeiladu tai gwydr yno.

“Pan dw i’n cerdded lawr i dre mi fydda i’n pasio o dan y fly over ac mae yno le reit agored yno, oni bai am y fly over ei hun, felly mi fasa’n dda gwyrddio’r lle ryw dipyn.

“Wrth gwrs byddai angen cael cefnogaeth y gymuned , unigolion neu elusennau i rywbeth fel hyn.”

Y trafod ar y trydar: