Mae Dydd Miwsig Cymru yn gyfle da i gyflwyno cerddoriaeth Cymraeg i gynulleidfa newydd, yn ôl aelod un o fandiau amlycaf y sin.

I nodi’r diwrnod bu Adwaith, band ôl-roc o Gaerfyrddin ac enillwyr y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2019, yn perfformio yn Lerpwl.

Yn ôl chwaraewr gitâr fas y band, Gwenllian Anthony,  roedd yr ymateb yn “really dda”; ac mae’n edrych yn eiddgar at eu gig yn Wrecsam yfory – mi fydd yn “amazing”, meddai.

Mae’r cerddor yn hoff iawn o Ddydd Miwsig Cymru ac mae’n credu ei fod yn ffordd dda o gyflwyno pobol at gerddoriaeth y sin Gymraeg.

“Fi’n credu bod e’n really dda,” meddai wrth golwg360. “Yn amlwg, ideally byddai pawb yn ei ddathlu pob dydd. Ond that’s not the case.

“Gyda miwsig Cymraeg mae pobol [dal yn dweud]: ‘I don’t really like Welsh language music’. A hynny, er bod nhw heb glywed e’.

“Mae hwn yn rheswm i wthio fe a chael e mas i gynulleidfa wahanol.”

Surf rock ar Lan y Môr

I nodi’r diwrnod mawr mae’r triawd wedi cyhoeddi cân, ‘Lan y Môr’ – sef diweddariad o’r clasur Cymreig. Mae Gwenllian Anthony yn esbonio’r hanes tu ôl i’w fersiwn hwythau.

“Roedd gyda ni’r surf rock riff yma,” meddai. “Ac o’n i am ages yn trio meddwl am lyrics iddo fe.

“Ac wedyn oeddwn i’n meddwl: ‘pam nag ydym ni’n gwneud cover o Lan y Môr?… Falle wneith hynna weithio!’ Wnaethon ni drio fe, a’r tro cyntaf i ni fynd trwyddo fe it worked.

“Mae wedi gweithio’n berffaith.”

Dyma fideo gan Ŵyl y Dyn Gwyrdd o Adwaith yn perfformio ‘Ar Lan y Môr’: