Mae tri dyn wedi’u carcharu am gyfanswm o bron i 70 o flynyddoedd am lofruddio dyn 18 oed yng Nghaerdydd.

Bu farw Fahad Nur ar ôl cael ei drywanu ger Gorsaf Rheilffyrdd Cathays yn ystod oriau mân y bore, Mehefin 2.

Ddydd Mawrth (Chwefror 4) cafodd Mustafa Aldobhani, 22, Abdulgalil Aldobhani, 23, a Shafique Shaddad, 25, eu barnu’n euog o’i lofruddio.

Gerbron Llys y Goron Caerdydd heddiw (Chwefror 7) derbyniodd pob un ohonyn nhw ddedfryd oes.

Bydd yr ieuengaf yn treulio o leiaf 22 blynedd dan glo cyn y bydd yn medru cael ei ystyried am barôl, a bydd Abdulgalil Aldobhani dan glo am o leiaf 24 blynedd, a Shafique Shaddad yn treulio o leiaf 23 blynedd yn y carchar.

Cafodd Aseel Arar, 35, ei farnu’n euog o gynorthwyo’r troseddwr a chafodd ei gadw yn y ddalfa. Bydd yn derbyn dedfryd yn ddiweddarach yn y mis.

Ymateb y teulu

Yn gynt yn yr wythnos cyhoeddodd teulu Fahad Nur lythyr yn dweud eu bod yn “blês iawn” gyda phenderfyniad y barnwr.

“Mae’r broses yma wedi bod yn hynod anodd i ni fel teulu,” meddai datganiad y teulu. “Rydym yn falch iawn bod hyn wedi dod i ben a bod cyfiawnder wedi’i wireddu.”