Mae Dŵr Cymru wedi cadarnhau bod pibell wedi byrstio yng Nghaernarfon, gan effeithio ar gyflenwad dŵr rhan helaeth o’r dref.

O ganlyniad, mae pum ysgol wedi cael eu gorfodi i gau yn y dref.

Dywed Dŵr Cymru bod y bibell wedi byrstio yn ardaloedd Rhosbodrual a Chaeathro, gan arwain at drigolion yn gorfod delio â phwysedd isel, neu ddim pwysedd o gwbl.

Aeth y cwmni ymlaen i ddweud eu bod yn gobeithio adfer y cyflenwad dŵr erbyn 16:00 yr hwyr ddydd Iau (Chwefror 6).

Mae Ysgol Syr Hugh Owen, Ysgol Maesincla, Ysgol Santes Helen, Ysgol Y Gelli ac Ysgol Pendalar wedi gorfod cau.

Daw hyn ddim ond mis wedi i Ysgol Syr Hugh Owen orfod cau am ddeuddydd yn dilyn gollyngiad nwy yno.