Fe fydd George North yn chwarae ar yr asgell, ac nid yn y canol, i dîm rygbi Cymru yn erbyn Iwerddon yn ninas Dulyn ddydd Sadwrn (Chwefror 8).

Mae Johnny McNicholl yn symud i’r fainc, a Nick Tompkins yn cymryd ei le yng nghanol y cae ar ôl sgorio cais yn ei gêm gyntaf yn erbyn yr Eidal yng ngêm gyntaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn diwethaf.

Ymhlith yr eilyddion mae Gareth Davies, Rhys Carré, Owen Williams ac Adam Beard, ac maen nhw’n cymryd llefydd Rhys Webb, Jarrod Evans a Rob Evans, ynghyd â Cory Hill sydd wedi anafu ei goes.

Mae Rhys Carré yn dychwelyd yn dilyn gwaharddiad ar ôl gweld cerdyn coch yn y gêm rhwng y Saraseniaid a’r Gweilch yng Nghwpan y Pencampwyr fis diwethaf.

Tîm Cymru: Leigh Halfpenny, George North, Hadleigh Parkes, Nick Tompkins, Josh Adams, Dan Biggar, Tomos Williams; Wyn Jones, Ken Owens, Dillon Lewis, Jake Ball, Alun Wyn Jones (capten), Aaron Wainwright, Justin Tipuric, Taulupe Faletau

Eilyddion: Ryan Elias, Rhys Carré, Leon Brown, Adam Beard, Ross Moriarty, Gareth Davies, Owen Williams, Johnny McNicholl