Fe fydd disgyblion Ysgol Gymraeg Ystalyfera’n cael helpu llunio cwestiynau i’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog eu holi i Mark Drakeford yr wythnos nesaf.

Fe fydd y Pwyllgor yn cyfarfod yn yr ysgol rhwng 10.00 a 12.00 fore Gwener (Chwefror 14).

Un o’r cwestiynau iddo fydd sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â newid hinsawdd ers datgan argyfwng hinsawdd yn 2019.

Yn ystod y cyfarfod bydd aelodau’r pwyllgor hefyd yn cael cyfle i holi’r Prif Weinidog am faterion amrywiol eraill.

Caiff y cyfarfod ei gynnal yn gyhoeddus a’i ffrydio’n fyw ar www.senedd.tv.