Bydd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, yn cyhoeddi cyllid gan Lywodraeth Cymru er mwyn helpu rhagor o ddarpar fyfyrwyr Meddygaeth a Deintyddiaeth sy’n siarad Cymraeg i ymgeisio’n llwyddiannus i’r brifysgol heddiw (Chwefror 6).

Cafodd cynllun Doctoriaid Yfory, sy’n cael ei redeg mewn partneriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Llywodraeth Cymru a phrifysgolion Caerdydd ac Abertawe, ei lansio am y tro cyntaf ym mis Medi 2018.

Bwriad y cynllun yw annog mwy o ddisgyblion Cymraeg chweched dosbarth i ymgeisio’n llwyddiannus i astudio Meddygaeth yn y brifysgol.

Mae’r cynllun wedi rhedeg am ddwy flynedd ar draws Cymru gyda darpar feddygon yn cael cyfle i fynychu rhaglen gefnogaeth sy’n cynnwys dosbarthiadau meistr ac ysgolion haf.

Bydd y Gweinidog yn cyhoeddi cyllideb newydd o dros £15,000 i’r cynllun, a fydd yn caniatáu i’r cynllun redeg am ei drydedd flwyddyn. Bydd hefyd yn rhoi cymorth i fyfyrwyr Deintyddiaeth am y tro cyntaf.

Dywed y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething: “Wrth galon ein fframwaith strategol Mwy Na Geiriau yw’r gred bod gallu defnyddio’ch iaith eich hunan yn rhan annatod o ofal.

“Mae gofal ac iaith yn mynd law yn llaw â’i gilydd ac mae gennym gyfrifoldeb i sefydlu diwylliant cefnogol er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau ar gael i siaradwyr Cymraeg.”