Carwyn Jones
Mae deg prifysgol Cymru wedi dod at ei gilydd i gynnig “pecyn unigryw” o  hyfforddiant ac arbenigedd i’r farchnad addysg uwch yn Tsieina.

Cafodd Consortiwm Hyfforddiant Addysg Uwch Cymru ei lansio  yn swyddogol heddiw gan y Prif Weinidog Carwyn Jones, a oedd ar ymweliad â Tsieina i hyrwyddo Cymru.

Mae’n golygu y bydd Tsieina yn gallu elwa ar arbenigedd sector prifysgolion Cymru. Bydd y prosiect yn crynhoi’r wybodaeth a’r arbenigedd sydd i’w cael yng Nghymru er mwyn bodloni anghenion y farchnad yn Tsieina.

Bydd y grŵp yn gweithio gyda Bwrdeistref Chongqing i sefydlu Canolfan Hyfforddiant Chongqing – Ewrop. Bydd y Consortiwm wedyn yn mynd ymlaen i weithio gyda sefydliadau unigol yn Tsieina.

Dywedodd Carwyn Jones:  “Dyma’r tro cyntaf i bob un o’r deg prifysgol yng Nghymru ddod at ei gilydd i gynnig pecyn unigryw a chynhwysfawr o hyfforddiant i unrhyw ran o’r byd.

“Mae hyn yn cydnabod y berthynas arbennig sydd gan Gymru â Chongqing, ac nid oes unrhyw brifysgol yn y byd sy’n cynnig unrhyw beth tebyg.

“Bydd y Consortiwm hwn yn manteisio ar gryfderau gwahanol Brifysgolion mewn gwahanol bynciau er mwyn sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth wedi’i deilwra ar gyfer ein partneriaid yn Tsieina.”