Daeth cadarnhad mai Grant Kerton, beiciwr modur 33 oed, fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ar Ffordd Gyswllt Dociau’r Barri toc wedi 4 o’r gloch fore Llun (Chwefror 3).

Mae dau ddyn, 26 a 35 oed, a gafodd eu harestio yn dilyn y gwrthdrawiad wedi cael eu rhyddhau dan ymchwiliad.

Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio ac yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â’r heddlu.

Mewn teyrnged gan deulu Grant Kerton cafodd y tad i fachgen 10 oed ei ddisgrifio fel “calon ac enaid ei deulu” a oedd “wrth ei fodd yn treulio amser gyda’i fab.”

“Roedd bob amser yn byw bywyd i’r eithaf, ac yn gwneud hynny gyda gwên ar ei wyneb.

“Fel teulu, byddwn yn trysori’r amser i ni rannu gydag ef am byth.”