Mae mudiad Yes Cymru yn dweud bod y cynnydd yn y gefnogaeth i annibyniaeth i Gymru “yn galonogol”.

Yn ôl arolwg gan YouGov, mae mwy o bobol o blaid gadael y Deyrnas Unedig ers yr etholiad cyffredinol ym mis Rhagfyr.

O ddileu’r rhai na fydden nhw’n pleidleisio, y rhai sy’n ansicr a’r rhai oedd yn gwrthod ateb, mae’r pôl yn awgrymu y byddai 27% o’r Cymry o blaid annibyniaeth pe bai refferendwm yn cael ei gynnal.

22% oedd y ffigwr ym mis Rhagfyr, yn ôl YouGov.

Bydd gorymdeithiau annibyniaeth yn cael eu cynnal yn Wrecsam (Ebrill 18), Tredegar (Mehefin 6) ac Abertawe (Medi 5) eleni.

“Mae’n galonogol iawn gweld i’r cynnydd yn y nifer sy’n cefnogi annibyniaeth yn 2019 barhau i’r flwyddyn newydd,” meddai Siôn Jobbins, cadeirydd Yes Cymru.

“Yn wir, bu cynnydd o 5% yn y gefnogaeth o’i gymharu ag arolwg blaenorol YouGov/ITV, a gynhaliwyd ar drothwy etholiad cyffredinol y Deyrnas Gyfunol ym mis Rhagfyr.

“Er bod llawer o bobol i’w hargyhoeddi o hyd, mae 27% o blaid annibyniaeth… yn sylfaen gadarn i adeiladu arni ym mlwyddyn gyntaf y degawd newydd.”

Pam nawr?

Yn ôl Siôn Jobbins, mae sawl rheswm pam y dylid cynnal refferendwm annibyniaeth yng Nghymru ar hyn o bryd.

“Mae Cymru ar fin colli £5bn i brosiect gwastraffus HS2 tra bod ein rhwydwaith reilffyrdd yn crebachu,” meddai.

“Mae un o bob tri o’n plant yn byw mewn tlodi.

“Ond mae gan Gymru y potensial i fod yn wlad gyfoethog – mae gennym ddwywaith cymaint o drydan nag yr ydym yn ei ddefnyddio ac mae gennym 15% o botensial ynni llanw Ewrop.

“Mae San Steffan yn cadw Cymru’n dlawd.

“Gyda refferendwm annibyniaeth yr Alban i’w gynnal yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf, a thebygolrwydd y bydd Iwerddon yn uno, mae angen i Gymru fod yn barod i fynnu’r un statws yn wleidyddol ag sydd ganddi ym myd rygbi a phêl-droed: annibyniaeth.

“Bydd Yes Cymru yn parhau i weithio trwy gydol 2020 i argyhoeddi pobol bod Cymru well yn bosibl, bod Cymru annibynnol yn bosibl.”