Mae cwest i farwolaeth bachgen a gwympodd o’r Gogarth yn Llandudno yn ystod trip Sgowtiaid, wedi clywed ei fod e a dau fachgen arall wedi gwahanu o’r grŵp pan syrthiodd i’w farwolaeth.

Roedd Ben Leonard, 16, o Stockport, Manceinion, yn Llandudno ar daith gafodd ei threfnu gan y Sgowtiaid ar Awst 26, 2018,  pan ddioddefodd anafiadau difrifol i’w ben ar ôl cwympo ar ymyl y Gogarth, clywodd cwest yn Neuadd y Sir, Rhuthun ddydd Llun [Chwefror 3].

Dywedodd y Crwner Cynorthwyol i Ogledd Cymru, David Pjour wrth y rheithgor fod grŵp o naw o fechgyn, rhwng 14 ac 18 mlwydd oed, wedi bod yn gwersylla ger Betws-y-Coed gyda’u harweinydd Sean Glaister a dau arweinydd cynorthwyol, Mary Carr a Gareth Williams.

Roedd y grŵp wedi bwriadu cerdded i fyny’r Wyddfa ar Awst 26 ond oherwydd y tywydd gwael, fe benderfynodd Sean Glaister fynd i Landudno yn lle.

Wrth gerdded i fyny’r Gogarth, clywodd y llys sut y gwnaeth Ben Leonard a’i ffrindiau, Alex Jamieson a Christopher Gilbert, gerdded yn araf a dilyn trywydd gwahanol i weddill y grŵp.

Wrth iddo geisio dod o hyd i lwybr i lawr at y ffordd islaw, cafodd ei weld gan y llygad dyst, Philip Taylor, yn “camu i lethr cul.” Gwelodd Philip Taylor ef yn “cymryd cam bychan arall cyn llithro a disgyn. Doedd e ddim yn medru sefydlu ei hun ‘na chael gafael ar unrhyw beth a llithrodd i’r llethr islaw.”

Daeth ambiwlans awyr i geisio achub Ben Leonard, ond bu farw o’i anafiadau.

Dywedodd David Pjour y “byddai’n rhaid i’r rheithgor ystyried sut oedd y daith wedi ei threfnu, hyfforddiant yr arweinyddion a’u gwybodaeth o’r Gogarth, y cyfathrebu rhwng yr arweinyddion a’r bechgyn a’r cyfarwyddiadau a roddwyd iddynt, yn ogystal ag os oedd asesiad risg wedi ei wneud.”

Mae disgwyl i’r cwest bara hyd at bedwar i bum diwrnod.