Mae gorchymyn gwasgaru mewn grym yn Llandudno drwy’r penwythnos yma oherwydd pryder am ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn y dref.

Mae hyn yn dilyn pryder cynyddol am bobl ifanc yn ymddwyn yn anghymdeithasol, gan achosi difrod troseddol, ymosodiadau ac amharu ar y drefn gyhoeddus yng nghanol y dref.

Mae’r gorchymyn yn galluogi plismyn a swyddogion cynorthwyol i orfodi pobl maen nhw’n credu y gallen nhw droseddu neu achosi anhrefn adael ardal sy’n cynnwys canol y dref a’r promenâd am 48 awr. Gallai gwrthod cydymffurfio arwain at arestio a gall pobl ifanc o dan 16 oed gael eu danfon adref o dan y gorchymyn.

Fe fydd y gorchymyn mewn grym tan 6.30 nos yfory.