Mae bron i hanner ysgolion Cymru yn wedi cael eu dosbarthu’n ‘gategori gwyrdd’ – y categori gorau – dan drefn dosbarthu Llywodraeth Cymru.

Dim ond pedwar diwrnod o gefnogaeth – y lefel isaf – sydd angen ar 49% o ysgolion cynradd, ac mae hynny’n gynnydd o 6% o gymharu â llynedd.

Er hynny mae 24 (11.7%) ysgol uwchradd wedi eu gosod yn y ‘categori coch’, ac mae hynny’n golygu bod angen 25 diwrnod o gymorth arnyn nhw. Mae hyn yn un yn fwy na’r llynedd.

Mae’r Gweinidog Addysg wedi croesawu’r ffigurau, ond yn “pryderu” am yr ysgolion sydd yn y categorïau gwaethaf.

“Mae’n galonogol i mi fod canran yr ysgolion cynradd ac uwchradd sydd yn y categori gwyrdd wedi cynyddu,” meddai. “Mae hyn yn arwydd o welliant … yn y system, a dylid cydnabod hynny.”

Ystadegau

  • Mae 609 ysgol gynradd yn y categori gwyrdd – 66 yn fwy na’r llynedd
  • Dim ond 20 (1.6%) ysgol gynradd sydd yn y categori coch – llai na llynedd
  • Mae 46.9% o ysgolion (cynradd, uwchradd ac arbennig) yn wyrdd, o gymharu â 41.6% y llynedd
  • Mae 4% yn fwy o ysgolion uwchradd yn y categori gwyrdd eleni