“Mae’n amlwg ry’n ni fel cenedl yn perfformio’n well na phob disgwyl ac mae’n amhosib imi deimlo yn fwy balch”

Dyna ddywedodd y seren Hollywood o Gymru, Matthew Rhys, wrth gyhoeddi’r enwebiadau Cymreig ar gyfer gwobrau Into Film.

Bob blwyddyn mae’r gwobrau yn cael eu rhoi i bobol ifanc sydd yn creu ac adolygu ffilmiau (yn ogystal ag athrawon) ac eleni mae pum Cymro yn deilwng – y nifer uchaf erioed.

Ymhlith y rheiny o Gymru a fydd yn troedio’r carped coch mae yna bobol ifanc o Abertawe, Gwynedd a Phowys.

“Diwylliant cryf” Cymru

“Rydym yn genedl fach o dair miliwn o bobl – mae yna ddinasoedd sy’n fwy na hynny,” meddai Matthew Rhys wrth siarad â grŵp o ddisgyblion o Ysgol Olchfa, Abertawe.

“Efallai ein diwylliant cryf o adrodd straeon sy’n mynd rhywfaint o’r ffordd i egluro pam ein bod ni, y Cymry, yn gwneud cystal yn ystod y tymor gwobrau.”

Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal eleni ar Fawrth 18 yn Sgwâr Caerlŷr, Llundain.

Yr enwebiadau

  • Yasmin John, Ysgol Hollies – Athro’r Flwyddyn
  • Tim Dadds, Ysgol Gynradd Cwmrhydyceirw -Athro’r Flwyddyn
  • Eden ___, Aberhonddu, “I’m the One” – Ffilm Orau, 12-15 oed
  • Cai ___, Ysgol Olchfa, Abertawe – Adolygydd y Flwyddyn
  • Hedydd __, Dyffryn Nantlle – “Ones to Watch”

Dyw Into Film ddim wedi datgelu cyfenwau’r bobol ifanc am resymau diogelwch.

Dyma fideo o gyhoeddiad Matthew Rhys: