A hithau yn ddiwrnod Brexit, mae Andrew RT Davies wedi galw ar wleidyddion o bob plaid i wneud “ymdrech fawr” i sicrhau llewyrch i Gymru.

Bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd am 11 heno (nos Wener, Ionawr 31), ac yn sgil hyn mi fydd yna ‘gyfnod trosglwyddo’ lle fydd y ddwy ochr yn ceisio dod i gytundeb masnach.

Mae’r Aelod Cynulliad Ceidwadol yn frwd o blaid yr ymadawiad, ond yn cydnabod nad yw’r diwrnod yn gyfle i ddathlu i bob un.

Er hynny mae yntau’n credu y bydd Brexit yn adfer “rhyw lefel o ffydd yng ngwleidyddiaeth”, ac mae’n galw yn awr ar bob gwleidydd i wneud y gorau o’r sefyllfa.

Diwrnod Brexit wedi dyfod

“Wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd mae’n hollbwysig bod gwleidyddion o bob lliw yn gadael malais a’r gwahaniaethau tros y tair blynedd ddiwethaf,  yn y gorffennol.

“A dylen nhw wneud ymdrech fawr i wireddu dyfodol gwell i Gymru a’r Deyrnas Unedig.

“Dw i’n llwyr dderbyn nad yw ‘Diwrnod Brexit’ yn foment o ddathlu i bawb, ond rydym yn wlad wych gyda phobol a chymunedau gwych.”