Mae Llys Ynadon yr Wyddgrug wedi clywed fod dyn 19 oed wedi achosi “embaras” i swyddog heddlu trawsryweddol drwy weiddi arno yn y stryd.

Ar ôl i’r llys ei gael yn euog, fe fydd rhaid i Declan Armstrong ufuddhau i gyrffyw rhwng 9yh a 7yb, a bydd yn rhaid iddo dalu dirwy o £590.

Cafwyd e’n euog o wneud sylwadau wrth Connor Freel tra ei fod e ar ddyletswydd yn y dref ar Hydref 16 y llynedd.

Wrth iddo fe a ffrind gerdded heibio’r swyddog, fe ofynnodd “ai bachgen neu ferch yw hyn?” ac fe ailadroddodd e’r sylw wrth i Connor Freel edrych arno.

Dywedodd cyfreithiwr ar ran Connor Freel iddo “ypsetio a theimlo embaras” wrth glywed y sylwadau, ond ei fod e eisiau tynnu sylw at gasineb gwrth-drawsryweddol yn sgil yr achos.

Mae ei gyfreithwyr yn dweud bod y digwyddiad yn golygu ei fod e’n gyndyn o fynd allan ar ddyletswydd ar ei ben ei hun.

Cafwyd Declan Armstrong yn euog o drosedd yn erbyn y drefn gyhoeddus ddechrau’r mis, ond roedd e’n dal i wadu’r sylwadau.

Clywodd y llys ei fod e wedi cael diagnosis o gyflwr Asperger a’i fod e hefyd yn dioddef o orbryder ac iselder.

Cafodd e ddedfryd fwy difrifol gan fod y sylwadau’n rhai cyhoeddus ar ganol stryd brysur, a’i fod wedi’i chodi o ran difrifoldeb oherwydd natur gwrth-drawsryweddol y sylwadau.

Bydd yn rhaid iddo dalu iawndal o £200 i Connor Freel, costau ychwanegol o £90 a chyfraniad o £300 tuag at gostau’r erlynwyr.

Bydd y cyrffyw yn para 12 wythnos.