Mae mudiad Cylch yr Iaith wedi galw ar y Gweinidog Addysg Kirsty Williams i wneud tro pedol cyhoeddus ynglyn Hanes Cymru yn y cwricwlwm addysg newydd.

Dan gynlluniau presennol, bydd disgyblion yn cael eu hannog i ddysgu am eu hardal eu hunain – neu eu ‘cynefin’ – a phryder sawl un yw na fydd plant yn dysgu digon am hanes eu cenedl. 

Ond gwrthododd y gweinidog y ddadl honno ac mae hi wedi herio’r syniad bod gan Gymru un hanes unedig.

“Does dim y fath beth a hanes Cymreig,” meddai wrth golwg360. “Mae yna hanesion Cymreig mae’n rhaid i ni siarad amdanyn nhw. 

Ymateb Cylch yr Iaith

Mae Ysgrifennydd Cylch yr Iaith, Ieuan Wyn wedi ymateb i hyn oll drwy gysylltu â’r gweinidog a galw arni i “gywiro ei hun” a gwneud tro pedol cyhoeddus.

Dywed Ieuan Wyn: “Deallwn yn ôl adroddiadau yn y wasg eich bod wedi datgan nad oes gan Gymru hanes cenedlaethol. Os cywir hyn, a’ch bod chi’n bersonol neu rywun ar eich rhan wedi llunio datganiad o’r fath, dylai fod cywilydd arnoch fod y sylw wedi ei wneud yn enw Llywodraeth Cymru.

“Galwn arnoch i’ch cywiro eich hun yn gyhoeddus yn ddiymdroi trwy ryddhau datganiad yn dweud yn glir a diamwys bod hanes cenedlaethol Cymru yn allweddol i holl ddisgyblion ysgolion ein gwlad ddeall a gwerthfawrogi’r gorffennol.”