Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu Llywodraeth Cymru o fethu â chadw at ei hymrwymiad i ddisodli Cymraeg Ail Iaith gydag un continwwm o ddysgu’r iaith yn ysgolion y wlad.

Yn ôl canllawiau diwygiedig Cwricwlwm Cymru a gyhoeddir heddiw gan y Gweinidog Addysg Kirsty Williams heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 28) mae dau lwybr o ddysgu’r Gymraeg yn parhau.

Mewn ymateb, dywedodd Toni Schiavone, Is-gadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, fod ywricwlwm newydd yn torri addewid y Llywodraeth i ddisodli Cymraeg Ail Iaith gydag un continwwm dysgu’r iaith”.

“Daeth yr ymrwymiad hwn yn dilyn adroddiad gan yr Athro Sioned Davies yn 2013 a argymhellodd mai dyna’r ffordd i wella safonau yn y Gymraeg,” meddai.

Yn yr adroddiad hwnnw – Un Iaith i Bawb – a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, yr oedd Sioned Davies yn argymell disodli Cymraeg Ail Iaith gyda chontinwwm lle byddai pob disgybl yng Nghymru yn cael cyfran o’u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg ac, “o ganlyniad byddai’r elfen Cymraeg ail iaith yn y rhaglen astudio Cymraeg yn cael ei disodli ynghyd â‘r term Cymraeg Ail Iaith.

“Mae’r penderfyniad yn dangos diffyg uchelgais a pharodrwydd i fuddsoddi mewn trefn dysgu Cymraeg a fyddai’n sicrhau bod pob disgybl yn gadael ysgol yn medru siarad Cymraeg.

“Pam trin y Gymraeg yn israddol i’r Saesneg a pham caniatáu parhad trefn dysgu sydd wedi methu’n llwyr dros yr hanner canrif diwethaf?

“Mae’r Llywodraeth wedi colli cyfle euraidd i gyflwyno’r iaith a’r diwylliant i holl ddisgyblion Cymru yn ddiwahân, ac mae hynny’n hynod siomedig.”