Mae’r Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths wedi bod yn dathlu sector diodydd gogledd Cymru.

Daw hyn wedi cyhoeddiad bod y sector wedi cyrraedd trosiant o £7.473bn yn 2019 sy’n uwch na nod Llywodraeth Cymru o £7bn, a thwf o 30% erbyn 2020. 

Mae busnesau diodydd Gogledd Cymru megis Lager Wrecsam, Mws Piws ac Aber Falls wedi chwarae rhan fawr wrth basio’r targed hwn.

Treuliodd Lesley Griffiths amser yn nistyllwr Aber Falls heddiw (Ionawr 28) yn cyfarfod â staff yno.