Mae Caerdydd wedi mynnu cael ymddiheuriad gan Reading wedi i’w cefnogwyr gael eu cyhuddo o weiddi sylwadau hiliol a homoffobig mewn gêm Cwpan FA yn stadiwm Madejski ddydd Sadwrn (Ionawr 25).

Daeth cyhoeddiad yn ystod yr hanner cyntaf y gêm i’r “cefnogwyr oddi cartref” yn dweud “nad oedd eu siantiau yn dderbyniol”.

Ond yn ôl Caerdydd, mae ymchwiliad wedi dangos nad oedd yno unrhyw siantiau hiliol wedi eu gweiddi gan gefnogwyr y clwb.

“Roedd y cyhoeddiad yn stadiwm Reading yn niweidiol a byddwn i’n croesawu ymddiheuriad i’n cefnogwyr,” meddai prif weithredwr Caerdydd, Ken Choo.