Mae manylion taith Syr Tom Jones i ddathlu ei ben-blwydd yn 80 oed wedi cael eu cyhoeddi, ond does dim sôn am gig yng Nghymru.

Bydd y daith yn dechrau yn yr O2 yn Llundain ar Fawrth 3.

Bydd e’n perfformio yn Siegen yn yr Almaen, Belffast, Cork, Hull, Darlington, Plymouth, Telford, Paddock Wood, Newmarket, a Chaerliwelydd cyn i’r daith orffen yn Norwich ar Awst 16.

Fe deithiodd e’r byd y llynedd, gyda gigs yn Taunton a Bryste, ond doedd dim un noson yng Nghymru, ac fe berfformiodd e yng Nghaer yn 2018.

Fe berfformiodd e ym Mharc Ynys Angharad yn ei dref enedigol yn 2005 i ddathlu ei ben-blwydd yn 65 oed ac ym Mharc Eirias, Bae Colwyn yn 2014.

Mae golwg360 wedi gofyn i’w gwmni PR am sylw.