Mae un achos arall o E.coli 0157 wedi ei gadarnhau wrth i’r ymchwiliad barhau i achos yr haint ym meithrinfa ar Ynys Môn.

Mae na gyfanswm o saith achos wedi eu cadarnhau bellach ers 13 Hydref. Wythnos ddiwethaf fe gyhoeddodd perchennog Tri Ceffyl Bach ger Amlwch  bod y feithrinfa wedi cau fel mesur diogelwch.

Mae 60 o bobl â chysylltiad â’r  feithrinfa wedi cael profion am E.coli 0157 gan gynnwys plant, aelodau o’r teulu, staff y feithrinfa a’r rhai hynny sydd â chysylltiad agos â’r rhai sy’n sâl.

Dywedodd  Dr Chris Whiteside o Iechyd Cyhoeddus Cymru nad yw hi’n anarferol i ragor o achosion ddod i’r amlwg. Ychwanegodd bod yr ymchwiliad yn parhau i darddiad y salwch, ond dywedodd y gallai hyn fod yn anodd gan fod E.coli 0157 yn gallu lledu mor hawdd ymhlith plant.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, gall y salwch amrywio o ddolur rhydd, crampiau yn y stumog a gwres,  i ddolur rhydd gwaedlyd. Gall y cyfnod heintus amrywio o un diwrnod i 14 diwrnod ac mae pobl sydd â E.coli 0157 fel arfer yn sâl am hyd at bythefnos.