Mae marwolaethau sy’n gysylltiedig â llygredd aer 21 gwaith yn fwy cyffredin na marwolaethau o ganlyniad i ddamweiniau ffordd, yn ôl y Ganolfan Ddinasoedd.

Mae mwy nag un farwolaeth o bob 23 o ganlyniad i lygredd aer yn ninasoedd Cymru, gyda’r gyfran uchaf yng Nghaerdydd a’r isaf yn Abertawe.

Mae’r ganolfan yn amcangyfrif fod 401 o farwolaethau yng Nghymru mewn blwyddyn yn gysylltiedig ag ansawdd aer, a 131 ohonyn nhw yn y brifddinas, sy’n cyfateb i 4.7% o holl oedolion y ddinas honno.

Roedd 158 o farwolaethau yn Abertawe o ganlyniad i’r un broblem, sy’n cyfateb i 3.7% o’r holl oedolion yn y ddinas – ond yn y ddinas hon mae llygredd aer yn achosi’r broblem fwyaf yng Nghymru.

Mae’r ganolfan yn galw am roi mwy o arian a grym i gynghorau i fynd i’r afael â’r broblem.

Er bod y llygredd aer o fewn y lefel gyfreithlon yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, mae’n mynd y tu hwnt i lefelau derbyniol Sefydliad Iechyd y Byd.

Trafnidiaeth a llosgi tanwydd yw’r prif ffactorau sy’n arwain at ansawdd aer gwael ac er bod hanner cynghorau lleol Cymru’n cydnabod y broblem, ychydig iawn sy’n cael ei wneud i ddatrys y sefyllfa, meddai’r ganolfan.

Sut gall cynghorau helpu?

Mae’r ganolfan, felly, yn galw am gyflwyno parthau allyriadau isel dros ben er mwyn codi tâl ar yrwyr mewn dinasoedd, a gwahardd y defnydd o ffwrn llosgi pren a thanau glo lle mae llygredd aer yn mynd y tu hwnt i lefelau derbyniol.

Maen nhw hefyd yn galw ar lywodraeth Cymru a Phrydain i helpu gwleidyddion lleol i gymryd camau i ddatrys y sefyllfa, gan gynnwys mabwysiadu canllawiau mwy llym Sefydliad Iechyd y Byd er mwyn mynd i’r afael â’r broblem yn llawn erbyn 2030, a rhoi ysgogiad ariannol i ddinasoedd wella ansawdd yr aer.

Yn ogystal, maen nhw eisiau sicrhau bod trefniadau yn eu lle gyda’r Undeb Ewropeaidd i fynd i’r afael â llygredd aer ar draws ffiniau daearyddol.

‘Mwy o weithredu’

 Mae’r Ganolfan Ddinasoedd yn dweud bod angen i wleidyddion wneud mwy i fynd i’r afael â’r sefyllfa.

“Mae mwy na hanner pobol y Deyrnas Unedig yn byw mewn dinasoedd a threfi mawr,” meddai Andrew Carter, prif weithredwr y ganolfan.

“A thra eu bod nhw’n cynnig cyflogaeth a chyfleoedd ffordd o fyw da, mae arolwg Cities Outlook 2020 yn dangos eu bod nhw hefyd yn cael effaith ddrwg ar eu hiechyd, gyda llygredd aer yn lladd miloedd o bobol bob blwyddyn sy’n byw mewn dinasoedd.

“Mae gwleidyddion yn aml yn siarad yn gadarn am fynd i’r afael â llygredd aer, ond mae angen i ni weld mwy o weithredu.”

‘Marwolaeth y gellir ei osgoi’

Mae Asthma UK a Sefydliad Ysgyfaint Prydain yn rhybuddio mai llygredd aer yw’r “bygythiad mwyaf” i iechyd y cyhoedd.

Mae’n ail ymhlith achosion marwolaeth y gellir ei osgoi, y tu ôl i ysmygu.

“Pan fo lefelau cyfreithlon o lygredd aer yn cyfrannu at yr ystadegau damniol hyn, rhaid i ni gydnabod pa mor gyflym mae’n rhaid gweithredu,” meddai Joseph Carter, pennaeth y bartneriaeth rhwng y ddau fudiad.

“Mae hynny’n golygu cyflwyno Deddf Awyr Iach newydd i Gymru yn ystod y tymor Cynulliad hwn, a sicrhau bod cefnogaeth ddeddfwriaethol a fframweithiau gwell yn eu lle i alluogi awdurdodau lleol i weithio tuag at sicrhau’r awyr fwyaf glân bosib.”