Mae’r Cymro John Humphrys, cyn-newyddiadurwr y BBC, wedi beirniadu’r Gorfforaeth am flaenoriaethu cyflogau cyfartal i ferched wrth i doriadau i’r gyllideb ohebu fygwth gwasanaethau newyddion.

Dywedodd yn ei golofn yn y Daily Mail ddoe (dydd Sadwrn, Ionawr 25) y bydd “llai fyth o arian” ar gael erbyn i’r Gorfforaeth ymateb i gwynion gan ferched nad ydyn nhw’n derbyn cyflogau cyfartal.

Ac fe wnaeth e dynnu sylw penodol at “gyflwynwyr fel Jane Garvey”, cyflwynydd Woman’s Hour, a’i chyhuddo hi ac eraill o “ymddwyn fel pe baen nhw’n gwneud aberth fawr er lles dynoliaeth, yn hytrach na mwynhau swydd anrhydeddus y byddai’r rhan fwyaf o bobol yn aberthu eu heneidiau drostyn nhw”.

Mae Jane Garvey wedi bod yn feirniadol o gyflogau anghyfartal yn dilyn ymadawiad Carrie Gracie, golygydd Tsieina y BBC, ddwy flynedd yn ôl.

Daw sylwadau John Humphrys ynghanol sïon fod y BBC am dorri hyd at £40m oddi ar y gyllideb ar gyfer rhaglenni newyddion, a rhaglenni sydd wedi cyflwyno gan ferched yn debygol o ddioddef yn bennaf.

Mae pryderon y gallai’r toriadau arwain at lai o ferched yn cyflwyno prif raglenni newyddion y Gorfforaeth.

Beirniadu John Humphrys

Yn dilyn ei sylwadau, mae ymgyrchwyr hawliau merched wedi beirniadu John Humphrys.

Yn ôl Catherine Mayer, cyd-sylfaenydd plaid Women’s Equality, mae’r newyddiadurwr wedi mynd yn fwy beirniadol ers gadael y BBC y llynedd.

Mae’n dweud ei fod e “eisoes yn eithriadol o amhriodol” cyn gadael ei swydd, ac mae’n ei gyhuddo o “roi safle i Jane Garvey a merched eraill y BBC nad oes ganddyn nhw”.

“Oni bai eich bod chi’n credu bod dynion gwyn yn fwy talentog o lawer nag unrhyw un arall, a dw i’n amau bod John Humphrys yn meddwl ei fod e’n fwy talentog, yna mae methu â thalu merched yn gyfartal yn fethiant wrth gydnabod eu talentau,” meddai.