Mae Brett Johns, y Cymro Cymraeg o Bontarddulais, yn dathlu wrth iddo gipio buddugoliaeth yn ei ornest gyntaf yn haen ucha’r crefftau ymladd cymysg ers 2018.

Roedd e’n herio Tony Gravely yng Ngogledd Carolina wrth ddychwelyd i’r UFC (Ultimate Fighting Championship) yn Las Vegas, ar ôl dros flwyddyn allan ag anaf.

Dyma ornest gyntaf Tony Gravely yn yr UFC yn dilyn saith buddugoliaeth o’r bron cyn yr ornest hon.

Ond roedd y Cymro’n rhy gryf iddo wrth iddo ildio yn y drydedd rownd.

Cafodd yr ornest ei henwi’n Ornest y Noson, gan ennill bonws o 50,000 o ddoleri i Brett Johns.

Roedd pryderon y gallai golli ei le yn yr UFC pe bai’n colli’r ornest, gan mai dyma fyddai ei drydedd o’r bron ar ôl colli yn erbyn Pedro Munhoz yn ei ornest flaenorol.

Fe fu’n paratoi ar gyfer yr ornest yn Athrofa Berfformiad yr UFC yn Las Vegas.

UFC Cymru?

Ar ôl yr ornest, mynegodd Brett Johns ei ddymuniad mewn cyfweliadau i weld pedwar ymladdwr UFC Cymru yn ymladd ar yr un cerdyn.

“Mae gyda ni gynifer o gynrychiolwyr gwych yn y genedl Gymreig,

“Mae gyda ni bedwar o fois – Jack Shore, Jack Marshman, John Phillips a finne.

“Wna i ddim dweud celwydd, dw i eisiau UFC Cymru, a dw i eisiau ei wthio er fy lles i a’r ymladdwr o ‘nghwmpas.

“Dydyn ni ddim hyd yn oed ar yr un tîm ond dw i eisiau ei wthio er lles pob un ohonon ni.

“Dw eisiau i bob un o’r bois wthio i gael cerdyn Cymreig ond lle maen nhw’n fy rhoi i sy’n gwestiwn arall.”