Mae dynes 53 oed wedi osgoi carchar am roi llun honedig o Jon Venables ar y We.

John Venables yw un o’r ddau wnaeth lofruddio James Bulger yn 1993.

Mae yn waharddiad llys rhyngwladol o ran cyhoeddi lluniau o Jon Venables fel y mae yn edrych erbyn hyn.

Bu i Tina McGuire o Rydaman yn Sir Gaerfyrddin gyfaddef iddi gyhoeddi’r llun honedig o Jon Venables ar Facebook.

Cafodd ei dedfrydu i wyth mis yn y carchar, wedi’i wahardd am 15 mis, ac mae’n rhaid iddi dalu £3,000 o ffioedd cyfreithiol.

Dywedodd y barnwr bod yr achos yn erbyn Tina McGuire “bron yn ddigon” i’w dedfrydu i garchar.