Mae gan golwg360 dystiolaeth uniongyrchol bod busnesau’n dechrau cymryd y diwrnod cariad Cymraeg o ddifri.

Fwy na hanner canrif ers ailsefydlu’r arfer o ddathlu Diwrnod Santes Dwynwen Dydd Dwynwen – dyfais y 60au, mae yna niferoedd sylweddol o siaradwyr Cymraeg a dysgwyr bellach yn nodi’r diwrnod ac mae busnesau’n dechrau ymateb.

Mae siopau Cymraeg yn dweud bod gwerthiant cardiau Dwynwen ar gynnydd ac yn denu cwmnïau mawr.

Hefyd mae ambell gwmni mawr fel Marks and Spencer yn cynnal ymgyrchoedd gwerthu ac mae nifer o westai a mannau bwyta yn cynnig prydau a bargeinion arbennig.

Y dystiolaeth

Mae mwy na naw o bob deg o blith y menywod a atebodd holiadur yn dathlu diwrnod Santes Dwynwen. Dwynwen – rydyn ni’n dathlu!

Mae siopau Marks and Spencer yn nodi’r diwrnod yng Nghymru eleni ac mae cwmnïau cardiau rhyngwladol hefyd yn creu cynnyrch.

Mae tystiolaeth a gasglodd golwg360 yn nhref Aberystwyth yn dangos bod diddordeb ar gynnydd o gymharu â blynyddoedd cynnar y dathliadau yn yr 1960au.

Cynnydd yn Aberystwyth

Fe aeth golwg360 o amgylch siampl o fusnesau yn Aberystwyth i holi a oedden nhw’n nodi Dydd Dwynwen.

Bwytai

  • Gwesty Cymru- gynnig bwydlen arbennig, neu y “special specials” i’w cwsmeriaid ar 25 Ionawr.
  • Gwesty’r Marine – wedi bwriadu cynnal Ffair Briodas ar y diwrnod ond wedi gorfod canslo oherwydd gwrthdaro â digwyddiad arall tebyg.

“Rydyn ni’n cynnig hyn bob blwyddyn” meddai Nerys o Westy Cymru, “ac mae 90% o’n bookings ni ar y nos Sadwrn yna yn gyplau sydd yn dathlu Santes Dwynwen.”

Cardiau a blodau

“Rydw i’n cael cwsmeriaid yn dod i mewn yn dweud ‘well i mi wneud’,” meddai Angharad Morgan sy’n gwerthu cardiau yn Siop Inc yn Aberystwyth. “Ond mae’n nhw’n gwerthu mas!

“Fel arfer mae gen i un ochr o spinner â chardiau Pasg arno fe, ond mae angen dwy ochr i’r cardiau Santes Dwynwen.”

Eglurodd hefyd ei bod wedi sylwi eleni nad cynhyrchwyr Cymraeg yn unig sy’n creu cardiau ar gyfer yr achlysur, ond mae cwmni mawr fel Tracks Publishing hefyd yn manteisio ar y dathliad.

“Fe agoron ni chwe blynedd yn ôl,” meddai Alex o siop flodau No.21. “Bryd hynny efallai roedden ni’n gwerthu rhyw ddau neu dri tusw. Ond dros y ddwy flynedd diwetha’ r’yn ni’n gwerthu ymhell dros ugain.”

Marks and Spencer

“Mae’r cwmni yn ceisio cefnogi digwyddiadau Cymreig,” meddai lleafarydd ar ran y siop yn Aberystwyth. “Rydyn ni fel siopau yng Nghymru a’r siopau ar y ffin wedi cael cyfarwyddyd gan y brif swyddfa i greu ‘ardal ddigwyddiadau’ Santes Dwynwen.

“Rydyn ni’n gwerthu llawer o flodau, a byddwn yn cael cardiau Cymraeg cyn y diwrnod hefyd gan ein bod wedi cael llawer yn gofyn amdanyn nhw. Dim ond un math ar hyn o bryd, ond efallai erbyn y flwyddyn nesaf y bydd mwy.

“Fe gawson ni lawer o sylw ar twitter llynedd pan welodd pobol ein bod yn dathlu’r diwrnod ac felly mae’n rhywbeth mae’r brif swyddfa yn awyddus i gario ymlaen ag e.”