Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg ei fod eisiau treialu dull o roi heroin am ddim i ddefnyddwyr trwm.

Yn ôl Arfon Jones byddai rhoi cyffuriau i ddefnyddwyr yn ffordd o leihau troseddu a rhoi clec i’r farchnad gyffuriau.

Mae cynlluniau o’r faith eisoes yn bodoli yn Lloegr, ac wedi eu hysbrydoli gan drefn ‘heroin ar bresgripsiwn’ sydd ar waith yn y Swistir ers degawdau.

“Maen nhw wedi cael heroin assisted treatment yno ers 1996 ac mae o’n gweithio,” meddai Arfon Jones wrth gylchgrawn Golwg.

“Beth mae’r gwaith ymchwil academaidd o’r Swistir yn dangos ydy, os ydych chi yn targedu rhwng 10, 15 ac 20% o’r defnyddwyr heroin trymaf sydd ganddo chi – [y rhai] sydd yn cyflawni’r nifer fwyaf o droseddu – ac yn rhoi heroin iddyn nhw yn gyfreithlon trwy bresgripsiwn, fedrwch chi leihau’r farchnad heroin bron iawn i 50%.

“Felly o haneru maint y farchnad, meddyliwch faint yn llai o droseddu fyddai yna, [sef] y math o droseddu difrifol rydach chi’n ei gael yn y dinasoedd.”

Glannau Dyfrdwy

Gobaith Arfon Jones yw treialu trefn y Swistir yma yng Nghymru.

“Mi wneith y Llywodraeth adael i chi wneud heroin assisted treatment – maen nhw yn ei wneud o yn Middlesbrough a Glasgow,” eglura’r Comisiynydd.

“Ac mi faswn i yn licio ei wneud o yng Nglannau Dyfrdwy, lle mae ganddo ni ddefnydd eithaf uchel o heroin.”

Byddai’r cynllun yn canolbwyntio ar drefi Cei Connah, Shotton a Queensferry yn Sir y Fflint.

Mae yn credu y gallai’r cynllun arwain at lai o bwysau ar yr heddlu ac ysbytai.

“Fyswn i yn dweud bod o’n eithaf niwtral o ran y gost.

“Achos mae’r [defnyddwyr cyffuriau] yn achosi hafoc yn y gymdeithas… dwyn, achosi niwsans, cymryd cyffuriau yn gyhoeddus.

“Maen nhw yn tanseilio cymdeithas. Felly os fedrwch chi wneud rhywbeth i wella eu hymddygiad nhw, mae hi’n anodd mesur gwerth hynny.

“Ac mae yna gost bob tro maen nhw yn troseddu… mynd â nhw o flaen y llysoedd a’u carcharu nhw.

“Ac wedyn maen nhw allan [o’r carchar] a does dim byd wedi newid.

“Rydan ni eisiau ymateb yn bositif i’r rhesymau pam bod y bobol yma yn cymryd cyffuriau… “Mae jest cloi nhw fyny a lluchio’r goriad i ffwrdd – maen nhw yn gwneud hynny ers hanner canrif, a tydi o ddim wedi gweithio.”

Mwy gan y Comisiynydd am gastiau gwael y gangiau ‘County Lines’ yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg