Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, a’r Dirprwy Weinidog Twristiaeth, Dafydd Elis-Thomas, yn cyhoeddi gweledigaeth ar gyfer yr economi ymwelwyr yng Nghymru heddiw (Ionawr 23).

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynllun pum mlynedd i dyfu’r economi ymwelwyr, gan hoelio sylw ar ddurluniau a diwylliant Cymru.

Bydd dwy gronfa yn cefnogi’r strategaeth newydd, Croeso i Gymru: Blaenoriaethau ar gyfer yr Economi Ymwelwyr 2020-25. 

Cronfa newydd £10m, Pethau Pwysig i fuddsoddi mewn a seilwaith twristiaeth, yn ogystal â’r Gronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth Cymru sy’n werth £50m.

Bydd Croeso i Gymru a’r cyllid newydd yn ceisio mynd i’r afael â rhai o’r heriau sy’n wynebu’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru.

Wrth lansio’r weledigaeth ym Mhorthcawl, dywed y Prif Weinidog, Mark Drakeford: “Dros y degawd diwethaf, mae twristiaeth yng Nghymru wedi trawsnewid, ond mae lle o hyd am dwf pellach yn ein heconomi ymwelwyr ac rydym am gefnogi hynny.

“Mae ein cynllun newydd â’i flaenoriaethau yn taro’r cydbwysedd cywir rhwng twf economaidd a’n llesiant ehangach fel gwlad.”