Mae llys wedi clywed fod y cyn-ddarlithydd Gerald Corrigan wedi cael ei saethu â bwa saeth o’r tu ôl i wal y tu allan i’w gartref ger Caergybi yng nghanol y nos.

Mae’r erlynwyr yn yr achos yn Llys y Goron yr Wyddgrug yn dadlau mai ymosodiad oedd wedi’i gynllunio ymlaen llaw oedd ei lofruddiaeth.

Mae Terence Whall, therapydd chwaraeon 39 oed, yn gwadu llofruddio ar Ddydd Gwener y Groglith y llynedd.

Roedd y dyn 74 oed wedi gadael ei gartref i drwsio disgl lloeren pan gafodd ei saethu a chlywodd y llys fod rhywun yn aros amdano.

Bu farw yn yr ysbyty ar Fai 11 yn sgil difrod i’w organnau.

Daethpwyd o hyd i Land Rover Discovery Emma Roberts, partner Terence Whall, wedi’i losgi bythefnos ar ôl iddo gael ei holi gan yr heddlu am fod â sawl bwa saeth yn ei feddiant.

Cafodd teclyn llywio lloeren ei ddinistrio yn y tân, ond llwyddodd yr heddlu i ddod o hyd i dystiolaeth fod y cerbyd y tu allan i gartref Gerald Corrigan cyn ei farwolaeth, ac yna ar draeth Porthdafach.

Cafodd y car ei adael ger y traeth ac roedd yn dal yno ar y noson tan ryw 12 munud ar ôl yr ymosodiad, ac mae’r erlynwyr yn honni bo Terence Whall wedi cerdded o’r traeth i gartref Gerald Corrigan.

Mae Darren Jones (41), Martin Roberts (34) a Gavin Jones (36) yn gwadu cynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder a chynllwynio i roi Land Rover ar dân, ac mae Terence Whall yn honni bod y cerbyd wedi cael ei ddwyn cyn noson yr ymosodiad.

Mae Martin Roberts a Darren Jones yn gwadu rhoi eiddo ar dân.