Mae seren Monty Python Terry Jones wedi marw yn 77 oed.

Cyfarwyddodd yr actor a comedian rai o weithiau mwyaf poblogaidd Monty Python, gan gynnwys y ffilm ddychanol Life Of Brian a Monty Python And The Holy Grail in 1975 gyda Terry Gilliam.

Yn frodor o Gymru, roedd Terry Jones yn rhan o’r gyfres deledu Monty Python’s Flying Circus, gan chwarae nifer fawr o gymeriadau a dod yn enwog am ei berfformiadau mewn drag.

Cafodd wybod bod ganddo ddementia yn 2016.

Dywed datganiad gan ei deulu: “Rydym oll wedi colli dyn, doniol, cynnes, creadigol a chariadus. 

“Mae ei hunaniaeth, ei ddoethineb a’i hiwmor anhygoel wedi rhoi pleser i filiynau o bobl ar hyd chwe degawd. 

“Bydd ei waith gyda Monty Python, ei lyfrau, ffilmiau, rhaglenni teledu, cerddi a gweithiau eraill yn byw ymlaen am byth.”