Angela Burns
Mae llefarydd addysg y Ceidwadwyr yn y Cynulliad wedi rhybuddio fod Cymru’n wynebu twll ariannol enfawr os nad yw nifer y myfyrwyr sy’n dod o Loegr i Gymru yn cynyddu.

Daw’r rhybudd wedi i UCAS gyhoeddi fod nifer y myfyrwyr sydd wedi gwneud cais i Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a Cholegau  hyd yn hyn wedi disgyn 9% o 76,612 yn 2011, i 69,724 yn 2012.

Yn ôl llefarydd addysg y Ceidwadwyr, Angela Burns, mae’r ffigyrau yn arbennig o bryderus i sefyllfa addysg yng Nghymru gan fod y Llywodraeth wedi penderfynu cadw ffioedd myfyrwyr o Gymru yn isel, yn groes i benderfyniad San Steffan fis Tachwedd y llynedd i’w codi, ar y rhagdybiaeth y byddai myfyrwyr o Loegr yn dod i Gymru ac yn talu’r ffi lawn o hyd at £9,000 – ac felly’n llenwi peth o’r bwlch ariannol.

Ond mae Angela Burns wedi beirniadu’r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, am ei gynllun “hanner-pan” heddiw, ar ôl i UCAS gyhoeddi’r cwymp yn nifer y myfyrwyr sydd wedi gwneud cais i fynd i brifysgol hyd yn hyn.

“Mae ei bolisi ar ffioedd myfyrwyr wedi ei selio ar dderbyn nifer o fyfyrwyr o Loegr er mwyn ysgafnhau’r gost.

“Ond mae ffigyrau heddiw yn codi cwestiynau mawr dros rywbeth sydd, yn y pendraw, yn bolisi hanner-pan a chwbwl anymarferol.”

Mae’r polisi yn llyncu “llwyth o arian y trethdalwr bob mis,” meddai Angela Burns AC, “heb ddiwedd i’r peth yn y golwg.

“Dwi’n gobeithio y bydd y Gweinidog nawr yn edrych yn fanwl iawn ar ei ffigyrau.”