Mae’r heddlu’n ymchwilio i honiadau bod merch 17 oed wedi cael ei threisio droeon gan aelodau o dîm rygbi o’r de yn ystod taith i Plymouth yn 1978

Mae lle i gredu bod yr ymosodiadau wedi digwydd yn hen westy’r Strathmore, a bod y troseddwyr honedig yn aelodau o dîm oedd ar daith yn yr ardal ar y pryd.

Roedd y ferch a’i ffrind wedi bod yn cymdeithasu yng nghlwb Safari, sydd bellach yn fwy adnabyddus fel y Notte Inn, pan wnaethon nhw gyfarfod â dyn yn ei 20au.

Fe ddywedodd ei fod e’n athro mathemateg a’i fod e ar daith gyda’i dîm rygbi.

Fe wnaeth y ferch adael ei ffrind wrth y bar i fynd i’w ystafell ac fe wnaeth sawl aelod o’r tîm ymuno â nhw tua awr yn ddiweddarach a’i threisio.

Mae’r dynion yn cael eu disgrifio fel dynion gwyn, wedi’u heillio ac yn eu 20au.

Yn ddiweddarach yn y noson, aeth y ferch, ei ffrind, yr athro a dyn arall i westy’r Duke of Cornwall, ac mae’r heddlu’n awyddus i siarad â’r ddau ddyn a allai fod yn dystion i’r digwyddiad honedig.

Mae’r heddlu wedi cyhoeddi lluniau o’r ddau fel yr oedden nhw’n edrych ar y pryd.