Mae ardal Pen-y-bont ar Ogwr am gael £100,000 arall i helpu’r economi wrth i ffatri geir Ford gau yno yn nes ymlaen eleni.
Fe fydd yr arian newydd – £50,000 gan Lywodraeth Cymru a £50,000 gan Ddinas Ranbarth Caerdydd – yn rhoi cyfle i Gyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr ymchwilio i weld a fydd tri phrosiect newydd yn gweithio.
Yn ôl Gweinidog yr Economi, Ken Skates, mae camau cadarnhaol yn cael eu cymryd i ddarparu ar gyfer y gweithlu a’r gymuned ym Mhen-y-Bont ar Ogwr.
Mae hynny’n cynnwys denu cwmni cerbydau newydd Ineos i agor ffatri yn yr ardal yn 2021.
Y prosiectau
Fe fydd yr arian newydd yn rhoi cyfle i edrych ar bosibiliadau tri chynllun:
- Rhaglen i ganolbwyntio ar Fenter – bydd y rhaglen yma yn rhoi mwy o gyfleoedd i fusnesau newydd ac entrepreneuriaid
- Rhaglen wytnwch Tref Pen-y-bont ar Ogwr – bwriad y rhaglen yma yw dod â mwy o fwrlwm i’r dref drwy ddenu mwy o ymwelwyr. Maen nhw hefyd yn ystyried symud safle Coleg Pen-y-bont i ganol y dref er mwyn denu buddsoddiadau yn y dyfodol.
- Rhaglen Buddsoddi tref wyliau Porthcawl – Cyfle i ddenu mwy o ymwelwyr i’r ardal drwy ddarparu amrywiaeth o weithgareddau a chyfleusterau mewn safle o ansawdd uchel.
Tasglu ‘yn llwyddo’
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae cynlluniau Tasglu Ford i helpu’r gweithwyr yn llwyddo.
Maen nhw’n dweud:
- bod 350 o bobol wedi cael swyddi newydd neu yn rhoi’r gorau i weithio – ond dydyn nhw ddim wedi rhoi manylion eto am faint sy’n mynd.
- Bod 90 o weithwyr yn ystyried mynd yn hunangyflogedig.
- Y bydd 105 arall yn chwilio am waith ar ôl i’r ffatri gau.
Mae’r Tasglu’n cynnwys llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig, awdurdodau lleol, undebau Llafur a Ford.
“Mae buddsoddiad diweddar INEOS Automotive gyferbyn a’r safle (Ford) ynghyd â buddsoddiad Aston Martin yn eu ffatri ym Mro Morgannwg yn dangos sut mae Llywodraethau Cymru a Phrydain yn gweithio gyda’i gilydd i ddenu buddsoddiadau a gwaith i’r sector moduro,” meddai Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig.