Mae cynghorydd lleol wedi son am sioc a thristwch y gymuned yn Ffair Rhos ger Pontrhydfendigaid, Ceredigion wedi i fachgen 3 oed farw mewn tân mewn carafán yn y pentref fore dydd Sul (Ionawr 19).

Fe lwyddodd tad a brawd y bachgen i ddianc o’r garafán. Mae’r bachgen, sy’n bedair oed, mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn yr ysbyty ac mae’r tad mewn cyflwr sefydlog.

Dywedodd Ifan Davies, sy’n gynghorydd lleol ar gyfer ardal Lledrod: “Mae’n drasiedi ddifrifol sydd wedi bwrw’r ardal yn ofnadw.

“Rydym ni’n byw mewn cymuned glos, ac i gyd yn cydymdeimlo’n fawr a’r teulu bach.”

Achos y tân “ddim yn amheus”

Cafodd Heddlu Dyfed Powys eu galw i’r tân am 5.35 fore dydd Sul a chafwyd hyd i gorff y bachgen tair oed yn y garafán.

Mae’r heddlu’n ymchwilio i achos y tân ac wedi sefydlu ystafell reoli arbennig yng ngorsaf yr heddlu yn Aberystwyth. Nid ydyn nhw’n trin achos y tân fel un amheus.

Mae teulu’r bachgen yn cael cymorth gan swyddogion cyswllt teulu arbenigol.

Mae’r heddlu’n awyddus i siarad gydag unrhyw un oedd yn ardal Ffair Rhos tuag adeg y tân sydd â gwybodaeth a allai helpu gyda’r ymchwiliad.

“Roedd hyn yn ddigwyddiad trasig ac fe fyddwn ni’n gwneud popeth yn ein gallu i ddod ag atebion i’r teulu – mae eu byd wedi cael ei rwygo gan y digwyddiadau bore ma,” meddai’r Ditectif Prif Uwch Arolygydd Steve Cockwell.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101.