Mae James Cleverly, cadeirydd y Blaid Geidwadol, yn dweud nad ei gyfrifoldeb e yw ymchwilio i wefan ddadleuol aelod seneddol newydd Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae Jamie Wallis dan y lach ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod ganddo gysylltiadau â gwefan ‘sugar daddy’, sy’n cynnig gwasanaeth gan ddynion cyfoethog yn gyfnewid am ffafrau rhywiol.

Fe fu’n gwadu’r honiadau, ond mae dau o’i gyn-gydweithwyr yn dweud eu bod nhw’n ymwybodol o’r wefan.

Er bod James Cleverly yn dweud nad yw cynnal ymchwiliad yn rhan o’i waith, mae’n dweud nad yw’n “gyfforddus” â bwriad y wefan.

“Mae gweithredoedd y wefan honno yn rhywbeth dw i ddim yn gyfforddus yn ei gylch ond yn y pen draw, mae’r berthynas rhwng y cwmni hwnnw ac unrhyw gwmnïau eraill y gall fod Jamie wedi bod yn rhan ohonyn nhw yn rhywbeth dw i ddim mewn sefyllfa i ymchwilio iddo,” meddai wrth raglen Sophy Ridge on Sunday.

“Mae trefniadau busnes ar wahân.

“Os yw e wedi gwneud unrhyw beth o’i le, bydd y Chwip yn edrych ar hynny ond ar hyn o bryd, dw i ddim yn gwybod ei fod e wedi gwneud unrhyw beth o’i le a does gen i ddim manylion llawn am y berthynas rhyngddo fe ac amryw fusnesau.

“Nid dyna fy ngwaith i.”

Mae’n dweud y byddai’n “gweithredu” pe bai’n cael gwybod ei fod e wedi gwneud unrhyw beth o’i le.