Mae Heddlu De Cymru’n rhybuddio’r cyhoedd i fod ar eu gwyliadwriaeth am dwyllwyr sy’n smalio bod yn blismyn neu’n swyddogion banc.

Daw hyn yn sgil achosion o dwyll sy’n cael ei adnabod fel ‘courier fraud’.

Mewn twyll o’r fath, mae pobl hen neu fregus yn cael galwadau ffôn yn honni bod problem gyda’u cyfrif banc neu’n gofyn am help gydag ymchwiliad.

Mae’r twyllwyr wedyn yn gofyn i’r dioddefwr godi arian o’r banc neu roi eu cardiau banc i rywun fydd yn galw heibio i’w casglu.

Wrth rybuddio pobl i’w diogelu eu hunain rhag twyllwyr o’r fath, dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod angen i bawb gofio na fydd yr heddlu byth yn:

  • Cysylltu i ofyn am fanylion banc na PIN
  • Gofyn i neb drosglwyddo arian o’u cyfrif am resymau’n ymwneud â thwyll
  • Gofyn i neb dynnu arian allan i’w drosglwyddo iddyn nhw ei gadw’n ddiogel
  • Anfon neb i gartrefi i gasglu arian parod, rhifau PIN na chardiau.