Mae’r heddlu yn Aberystwyth yn rhybuddio’r gymuned leol am griw o ddihirod twyllodrus sydd wedi bod yn teithio o Gaerdydd i’r dref i gardota.

Credir fod nifer o bobol leol ac ymwelwyr wedi rhoi arian parod i’r criw, a hynny gan gredu bod yr aelodau’r mewn gwir angen.

Daeth i’r amlwg nad oedd rhai o’r cardotwyr yn ddigartref wedi i’r heddlu geisio cynnig cefnogaeth iddyn nhw.

Dywedodd yr heddwas Phil Woodland ei fod yn falch o weithio mewn tref lle mae pobol eisiau helpu ei gilydd, ond “ar yr achlysur hwn mae’r gymuned wedi cael ei chamarwain – yn y bôn maen nhw’n twyllo pobol. ”

Mae’r sefyllfa’n cael ei monitro gan yr heddlu, a gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys.