Daeth i’r amlwg nad oes modd gadael adolygiadau Cymraeg ar  wefan TripAdvisor.

Nid yw’r wefan yn adnabod y Gymraeg ac felly mae yn gwrthod adolygiadau drwy gyfrwng yr iaith.

Mae yn debyg bod y cwmni angen gallu adnabod iaith adolygiad er mwyn medru dileu unrhyw sylwadau hiliol neu anghyfreithlon.

Mae papur The Times yn egluro mai Siôn Meredith, o Aberystwyth, wnaeth ddarganfod y broblem ar ôl gadael adolygiad yn y Gymraeg am dafarn y Whitehall ym Mhwllheli.

Mi sgwennodd yr adolygiad ym mis Rhagfyr, ac mi ganmolodd y dafarn am chwarae cerddoriaeth Cymraeg – ond fe gafodd y pwt ei wrthod gan y wefan adolygiadau.

“Er nad ydym yn medru derbyn adolygiadau Cymraeg,” meddai llefarydd ar ran TripAdvisor, “rydym yn chwilio o hyd am gyfleoedd i ehangu’r nifer o ieithoedd.”

Huw Edwards yn ymateb

Mae’r newyddiadurwr o Gymru, Huw Edwards,  wedi ymateb trwy ddadlau bod “dim esgus go-iawn o ystyried bod technoleg cyfieithu soffistigedig ar gael.”

“Ceisiwch ddefnyddio iPhone yn siaradwr Cymraeg,” meddai wrth The Times. “Yn rhy aml mae [sgwennu] brawddeg syml yn Gymraeg yn troi’n brofiad hirfaith o gywiro’r autocorrect.

Mae hefyd wedi dweud ei fod yn gwrthod anfon negeseuon testun Saesneg i’w fam, oherwydd “dydyn ni erioed wedi siarad yr iaith honno gyda’n gilydd”.

Ymateb Siôn Meredith

Yn ôl Siôn Meredith mae ei adolygiad wedi ei gyhoeddi ar y fersiwn Swedeg o Trip Advisor.

Ond nid yw’n “weladwy” i bobol sy’n defnyddio Trip Advisor yn Saesneg – a does dim modd defnyddio’r wefan yn Gymraeg.

“Yn ôl beth dw i’n ddeall, [am ryw reswm] mae ond yn weladwy i bobol sy’n defnyddio Trip Advisor yn Swedeg,” meddai Siôn Meredith. “Felly mae wedi ei gyhoeddi.

“Ac mae [yr adolygiad Cymraeg] yna i bobol Sweden, neu siaradwyr Swedeg i weld o, ond yn Gymraeg. Felly dyna sydd yn creu sefyllfa o ddryswch.”

Dyw’r Pennaeth Dysgu Cymraeg ddim yn teimlo drwgdeimlad at y wefan, ac nid yw’n teimlo bod ganddyn nhw “bolisi bwriadol” o “ragfarnu”. Ond mae am weld newidiadau.

“Dw i’n deall bod yn rhaid i gwmni fel TripAdvisor wirio a check-io bod yna ddim fraud a phethau felly,” meddai.

“Ond mi ddylai adolygiadau ym mhob iaith ymddangos ar gyfer bwyty, neu westy, neu rywbeth. Felly efallai bod pobol wedi adolygu yn Ffrangeg, Saesneg, yn Gymraeg, beth bynnag.

“Dylai fod yn bosib i mi weld pob adolygiad mewn unrhyw iaith.”

Ymateb TripAdvisor

Mae cwmni TripAdvisor wedi cadarnhau wrth golwg360 nad oes modd postio adolygiad yn Gymraeg ar eu gwefan.

“Er mwyn cynnal enw da ein gwefan, rydym yn sicrhau bod pob iaith yr ydym yn ei chynnwys yn cyd-fynd â’n prosesau cymedroli sylwadau a darganfod twyll,” meddai llefarydd.

“Oherwydd hyn, nid ydym yn gallu dangos adolygiadau ym mhob un o ieithoedd y byd…

“Ar hyn o bryd mae TripAdvisor… yn caniatáu defnyddio 28 o ieithoedd.

“Felly er nad ydym yn gallu dangos adolygiadau sydd wedi eu sgrifennu yn Gymraeg, rydym wastad yn chwilio am gyfleoedd i ehangu nifer yr ieithoedd y gallwn eu cefnogi ar ein gwefan.”